Platfform digidol yw Cognita.Cymru ar gyfer arsylwadau gwersi, adolygiadau llyfrau ysgol gyfan ac adolygiadau ysgol gyfan. Gellir addasu’r gwefan yn rhwydd i gwrdd ag anghenion unigryw yr ysgol. Gwefan sy’n trefnu a hwyluso ysgrifennu a chasglu systemau gweinyddol ysgol yw Cognita.Cymru. Bydd hi hefyd yn gymorth i ailddiffinio’r hyn rydych yn ei wneud gyda’r wybodaeth. Dau brif bwrpas y wefan yw: 1) Symleiddio cwblhau a chasglu arsylwadau gwersi, adolygiadau craffu ar lyfrau ac adolygiadau ysgol gyfan. 2) Gwella’r dadansoddi sy’n deillio o arsylwadau gwersi, adolygiadau craffu ar lyfrau ac adolygiadau ysgol gyfan Mae’r wybodaeth yn cael ei chasglu a’i storio’n ddigidol. Gellir rhannu’r wybodaeth a gesglir a’i dosbarthu fesul athro, blwyddyn ysgol, pwnc neu flwyddyn academaidd gan ganiatáu’r ysgol i weld yn glir ei gwendidau a chryfderau. Proses Casglu Data Bydd gan bob Athro ei fanylion mewngofnodi personol ei hun gyda gwahanol lefelau o fynediad at ddata a gosodiadau preifatrwydd. Mae'r wybodaeth a gesglir yn cael ei storio a'i phasio ar unwaith ar hyd y gadwyn reoli gywir, ac mae gan y wefan 5 gosodiad lefel defnyddiwr (pennaeth, rheolwr llinell, pennaeth adran, athro a llywodraethwr). Mae ffurflenni'n cael eu storio'n ganolog ar y wefan ond gellir eu lawrlwytho fel PDFs unigol ar gyfer eich cofnodion. Mae'r holl ddata ar y wefan yn cael ei ategu bob dydd. Dadansoddi Data Gall y wefan casglu data ansoddol a data meintiol. Gellir rhannu'r wybodaeth a gesglir i ganolbwyntio ar athro, pwnc neu gr?p blwyddyn. O ganlyniad gellir casglu data sydd o ddiddordeb i’r ysgol neu’n faes ymchwil iddi yn ddidrafferth. Gellir dewis a dethol grwpiau academaidd penodol a’u cymharu a dadansoddi’n rhwydd. Yn syth bin, bydd un clic yn rhoi trosolwg o arsylwad gwers, adolygiad craffu ar lyfrau, pwnc neu flwyddyn academaidd. Mae’r wefan hefyd yn gallu creu adroddiad ar gryfderau a gwendidau’r ysgol gydag un clic.